Regional Language Networks

RLN North East ¦ RLN North West ¦ RLN Yorkshire & The Humber ¦ RLN East Midlands ¦ RLN West Midlands ¦ RLN East ¦ RLN London ¦ RLN South East ¦ RLN South West

LN Northern Ireland ¦ LN Scotland ¦ LN Cymru

Language Network Cymru logo

(Add title)

Cyflwyniad

hyrwyddo gwell sgiliau cenedlaethol mewn iaith a diwylliant ym myd busnes a chyflogaeth  

Mae cwmnïau o Gymru yn colli busnes mewn marchnadoedd rhyngwladol am nad oes ganddynt sgiliau iaith a dealltwriaeth o ddiwylliannau gwahanol. (Llywodraeth Cynulliad Cymru - Archwiliad o Alluoedd Medrau Iaith Cymru 2002).

  • Mae 19% o fusnesau sy’n delio’n rhyngwladol wedi colli busnes;
  • Mae 20% o fusnesau wedi'u llyffetheirio gan wahaniaethau diwylliannol;
  • Mae 42% o fusnesau wedi'u llyffetheirio gan wahaniaethau o ran iaith.

Mae Rhwydwaith Ieithoedd Cymru, sydd yn gweithio ar y cyd â CILT Cymru, ac yn cael cefnogaeth gan CILT, Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ieithoedd, yn cydweithio gyda phartneriaid allweddol er mwyn gweithredu’r Agenda ar gyfer Gweithredu a gyhoeddwyd fel rhan o’r Archwiliad o Alluoedd Medrau Iaith Cymru, sydd yn cyd-fynd â Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Ieithoedd Tramor Modern, Ieithoedd Sy’n Cyfrif.

Mae Rhwydwaith Ieithoedd Cymru yn cynnig cymorth proffesiynol i helpu Busnesau yng Nghymru i:


Trwy gydweithio’n agos gyda busnesau, darparwyr gwasanaeth iaith a sefydliadau partner, Mae Rhwydwaith Ieithoedd Cymru yn adeiladu rhwydwaith ffyniannus er mwyn parhau i ddatblygu awydd a gallu i’r genedl gystadlu.

Cysylltu busnesau â darparwyr

Bwriad gwefan Rhwydwaith Ieithoedd Cymru yw bod yn ganolbwynt ar gyfer y gymuned fusnes er mwyn hwyluso a hybu cydweithrediad rhwng busnesau, darparwyr gwasanaeth iaith ac eraill sy’n rhan o’r byd busnes ledled y wlad.

Bu gostyngiad mewn sgiliau iaith ar gyfer busnes yng Nghymru fel mewn rhannau eraill o’r DU. Mae’r un math o waith ag sydd yn cael ei wneud gan Rhwydwaith Ieithoedd Cymru yn cael ei wneud hefyd mewn meysydd eraill mewn ymgyrch gan CILT, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ieithoedd, i gynyddu masnach mewn marchnadoedd rhyngwladol. Yn y Prosiect Rhwydweithiau Iaith Rhanbarthol daw 12 o rwydweithiau ledled y DU at ei gilydd. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan CILT.

Os siaradwch chi â phobl mewn iaith maen nhw yn ei deall, mae hynny’n cyffwrdd â’u pen.

Os siaradwch chi â phobl yn eu hiaith eu hunain, mae hynny’n cyffwrdd â’u calon.

- Nelson Mandela

Gyrfaoedd

Dolennau

Cyswllt